Fy Nghinio Ysgol Logo
Home
|
I Rieni
|
I Blant
|
I Athrawon
|
Hwyl
Newyddion Cati
Cati
 
 
Mis Diabetes y Byd

A wyddech chi bod Tachwedd 2011 yn Fis Diabetes y Byd Roedd Cati yn meddwl bod hyn yn ddigwyddiad pwysig iawn i ddysgu amdano am ei bod yn nabod merch yn ei hysgol sydd â diabetes.

Faint ydych chi'n ei wybod am ddiabetes? Ydych chi'n nabod rhywun sy'n dioddef ohono? Daeth Cati o hyd i rywfaint o wybodaeth am ddiabetes er mwyn ei gwneud yn haws i chi ddeall.

• Mae dau fath o ddiabetes. Maent yn cael eu galw'n Math 1 a Math 2.
• Mae diabetes yn gysylltiedig â bwyta bwyd, yn enwedig y grŵp bwyd a elwir yn carbohydradau.
• Pan fyddwch yn bwyta bwyd, bydd rhywbeth o'r enw glwcos yn mynd i mewn i'ch llif gwaed. Ar ôl y math hwn caiff math o hormon ei ryddhau. Yr enw ar hwn yw inswlin a'i waith yw amsugno'r glwcos sydd dros ben.
• Nid yw pobl sydd â diabetes Math 1 yn cynhyrchu unrhyw inswlin yn eu cyrff. Nid yw pobl sydd â diabetes Math 2, yn cynhyrchu digon o inswlin.
• Caiff diabetes Math 1 ei reoli gan bigiadau neu bwmp inswlin. Mae'n fwyaf cyffredin i'r math hwn ddechrau mewn pobl iau.
• Mae pobl sydd â diabetes Math 2 yn ei reoli gyda deiet arbennig, ymarfer corff ac weithiau meddyginiaeth ac inswlin.
• Mae 2.6 miliwn o bobl yn y DU yn dioddef o ddiabetes.
• Cynhelir diwrnod Diabetes Rhyngwladol ar 14 Tachwedd bob blwyddyn.
• Yr enw priodol ar Diabetes yw Diabetes Mellitus.

Mae angen i bobl sydd â diabetes fod yn ofalus o'u lefelau siwgr yn y gwaed gan y gallant fod yn rhy uchel neu'n rhy isel. Os yw lefelau siwgr yn y gwaed yn mynd yn rhy isel (o dan 4.0 mmols / l) gelwir hyn yn hypo. Dyma rai pethau y gall rhywun sy'n cael hypo eu teimlo: -

• Wedi blino
• Twym ac oer
• Chwant bwyd
• Pen tost
• Sâl
• Methu meddwl neu siarad yn iawn
• Gwan
• Goglais (‘tingling') yn y dwylo, gwefusau neu'r tafod

Pan fydd lefelau siwgr yn y gwaed person yn mynd yn rhy isel, byddai angen iddyn nhw fwyta rhywbeth sy'n cynnwys siwgr er mwyn gwneud i'r lefelau fynd i fyny. Gallai hyn fod yn dabledi glwcos, rhai mathau o losin neu ychydig o lympiau siwgr.

Gallwch gael hyd yn oed mwy o wybodaeth am ddiabetes o adran y plant ar y wefan Diabetes UK. Mae hwn yn adnodd gwych i unrhyw un sydd am wybod mwy am ddiabetes.

Caerphilly County Borough Council
Section Links
Cati
|

|

|

|

My School Lunch ... With regular competitions and great prizes

Hafan | I Rieni | I Blant | I Athrawon | Hwyl | Accessibility | Polisi Preifatrwydd

© 2012 Fy Nghinio Ysgol