Fy Nghinio Ysgol Logo
Home
|
I Rieni
|
I Blant
|
I Athrawon
|
Hwyl
Bwydlenni
 

Bydd disgyblion yng Nghaerffili yn medru mwynhau seigiau newydd pan fydd bwydlen newydd prydau bwyd ysgolion yn cael ei lansio ar Ddydd Llun 16eg Ebrill.  Bydd y gwelliannau i’r fwydlen yn cynnwys:-

  • Detholiad o 3 ffrwyth a llysieuyn y dydd o leiaf;
  • Cig Eidion a Chig Oen lleol, sydd wedi derbyn gwobr Cymru y Gwir Flas, yn cael eu defnyddio’n  helaeth drwy’r fwydlen.  Mae’r cig yn cael ei gyflenwi gan gigydd o Gelligaer, Morgan Thomas, a gyda chymorth Baraka Foods Cyf, sydd wedi eu lleoli yn y Rhondda, fe’i troir mewn i brydau bwyd sy’n isel mewn braster ac yn isel mewn halen, tebyg i bastai’r bugail, lasagne, cyrri a byrgeri iachus sy’n apelio at blant ac oedolion;
  • Cyw Iâr Lleol Sir Benfro ar y fwydlen;
  • Dewis o fara cyflawn ar gael yn ddyddiol;
  • Mae nifer o’n cynhyrchion pysgod yn cynnwys 3;
  • Nid oes halen ar gael ac rydym yn cymryd gofal i gyfyngu faint o halen sy’n cael ei ddefnyddio wrth goginio a faint o halen sydd mewn bwyd sy’n cael ei brynu;
  • Cynigir sglodion ond unwaith yr wythnos;
  • Bysedd penfras 100%;
  • Mwy o ddewis o brydau bwyd llysieuol sy’n cynnwys Quorn;

Mae ein bwydlenni wedi eu cynllunio’n fanwl i gwrdd â chanllawiau maethol Cymru ar gyfer ciniawau ysgol gan ein rheolwr arlwyo a’n ymgynghorwyr bwyd o dîm y Gwasanaeth Hyrwyddo Iechyd Cenedlaethol.  Ein hamcan yw sicrhau fod pryd o fwyd iachus a maethol yn cael ei ddarparu i bob disgybl, ac y darperir bwyd ar gyfer llysieuwyr a disgyblion ar ddietau arbennig hefyd. 

Bob dydd mae yna ddewis o brif brydau bwyd poeth gydag o leiaf un opsiwn llysieuol, a dewis o lysiau, potiau ffrwythau, ysgytlaethau, suddion ffrwythau a dand water.

Bob wythnos bydd ffrwyth neu lysieuyn gwahanol yn cael ei hyrwyddo ac mi fydd yn cael ei arddangos ar y fwydlen fel saig flasus newydd.  Anogir y disgyblion i fwyta’r llysiau neu’r ffrwythau maethlon a dysgu mwy amdanynt. 

Bydd prydau bwyd yn costio £1.55 y dydd ar gyfer pryd o fwyd dau gwrs a diod.  Gellir talu am y prydau bwyd drwy siec neu arian parod, ac yn gyffredinol fe gasglir yr arian ar Ddydd Llun. 

Mae’r fwydlen newydd yn cwrdd â safonau maethol Ymddiriedolaeth Caroline Walker ac mae’n gam sylweddol tuag at y cynigion yn y ddogfen ymgynghorol, “Blas am Oes”.

Os hoffech i’ch plentyn gael pryd o fwyd yn yr ysgol neu os hoffech gael fwy o wybodaeth, siaradwch ag Ysgrifenyddes yr ysgol neu ewch i’r dudalen cysylltu â ni er mwyn siarad â rhywun yn yr adran arlwyo.

Caerphilly County Borough Council
Section Links
|

Bwydlenni
Dydd Llun Dydd Mawrth Dydd Mercher Dydd Lau Dydd Gwener
     

Hafan | I Rieni | I Blant | I Athrawon | Hwyl | Accessibility | Polisi Preifatrwydd

© 2012 Fy Nghinio Ysgol