Fy Nghinio Ysgol Logo
Home
|
I Rieni
|
I Blant
|
I Athrawon
|
Hwyl
Pobl ifanc yn dysgu bod ffitrwydd yn ‘cŵl'
Dyddiad: 29/11/2011

Gall plant 5 -11 oed sy'n byw ym mwrdeistref Caerffili ac sy'n cael problemau â'u pwysau ddysgu sut i fyw'n iachach ar y cwrs 10 wythnos F3 (Fun, Food and Fitness/Hwyl, Bwyd a Ffitrwydd).

Mae'r cwrs sy'n rhad ac am ddim yn cynnwys un sesiwn bob wythnos i ysbrydoli teuluoedd i wneud mwy o ymarfer, mwynhau paratoi prydau iach a'u bwyta, darllen labeli bwyd a chwilio am fwydydd iach sydd heb fod yn ddrud.

Cafodd Jane gyngor gan ei meddyg teulu i fynd â'i merch i F3. Dywedodd, "Dyna'r peth gorau ddigwyddodd i Carly. Cafodd lwythi o gefnogaeth gan y tîm ac fe ddysgon nhw iddi sut i fwynhau ymarfer. Nawr mae hi'n gwneud pêl-rwyd a chic-focsio ac yn mynd allan mwy gyda'i ffrindiau." Dywedodd mam arall, Tracey, wrthym, "Bu F3 yn help imi dyfu'n nes at fy merch. Gyda'n gilydd fe ddysgon ni sut i newid ein prydau a dal i fwynhau ein bwyd."

Cyn dod i F3, fyddai John ond yn bwyta tatws a moron ac yn gwrthod profi unrhyw lysiau eraill. Bellach mae o'n bwyta pob llysieuyn sydd ar ei blât, gan gynnwys blodfresych, brocoli, pannas a maip.

Bydd dwy raglen nesaf F3 yn dechrau ym mis Ionawr 2012 ac yn cael eu cynnal yng Nghaerffili a Nelson.

I ymuno â'r rhaglen F3 neu i gael gwybod mwy, ffoniwch Sue Norey ar 01495 241292 neu anfonwch e-bost: susan.norey@wales.nhs.uk

Ariennir F3 gan Y Gronfa Loteri Fawr.



Yn ol
Caerphilly County Borough Council
Section Links
|

     
My School Lunch ... Giving you the latest information

Hafan | I Rieni | I Blant | I Athrawon | Hwyl | Accessibility | Polisi Preifatrwydd

© 2012 Fy Nghinio Ysgol