Dyddiad: 23/11/2004
Mae disgybl o Ysgol Gyfun Heolddu wedi derbyn gwobr fel y disgybl sy’n bwyta’r deiet mwyaf iachus.
Mae Gwasanaethau Arlwyo Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi bod yn monitro prydau bwyd disgyblion Ysgol Gyfun Heolddu ym Margod fel rhan o system heb arian parod sy’n caniatáu i ddisgyblion brynu bwyd a diod drwy ddefnyddio cerdyn. Gall y disgyblion ychwanegu arian ar y cerdyn, neu gofyn i’r cerdyn gael ei gredydu ar gyfer cinio ysgol am ddim, a’i ddefnyddio yn y ffreutur neu mewn peiriannau gwerthu bwyd.
Mae’r system yn galluogi staff arlwyo i fonitro pa eitem o fwyd y mae’r disgybl wedi’i brynu. Felly, roedd modd iddynt ganfod pwy oedd wedi bwyta’r bwydydd mwyaf iachus.
Cyhoeddwyd mai Daniel Petrie, disgybl blwyddyn 9, oedd yr enillydd. Dywedodd, ‘Rydw i wrth fy modd gyda’r holl fwydydd iachus sydd yma. Alla i ddim rhoi’r gorau i’w bwyta!’
Rhoddwyd taleb gweithgarwch teuluol i Daniel y gallant ei defnyddio mewn canolfan hamdden yn y fwrdeistref.
Mae’r system heb arian parod yn fuddsoddiad gan Wasanaethau Arlwyo i wella’r cyfleusterau arlwyo sydd ar gael mewn ysgolion uwchradd. Gosodwyd pedair system heb arian parod yn ysgolion uwchradd Heolddu, Oakdale, Bedwas a’r Coed Duon, ac mae cynlluniau ar y gweill i osod rhagor.
Y gobaith yw y bydd y buddsoddiadau hyn yn annog disgyblion i brynu bwydydd iach yn eu hysgol, ac yn eu hannog i beidio â phrynu bwyd brasterog neu felys y tu allan i dir yr ysgol.
Dywedodd y Cynghorwr Dai Hardacre, sy’n Aelod Cabinet Addysg a Hamdden, ‘mae’r system heb arian parod yn ffordd wych o annog disgyblion i brynu bwyd iachus o ffreutur yr ysgol. Mae Daniel Petrie yn enghraifft dda o rywun sydd wedi croesawu’r dewisiadau iachus sydd ar gael. Gobeithiaf y gellir ailadrodd hyn mewn ysgolion ledled y fwrdeistref’.
Pryd bwyd pen-blwydd yn rhoi blas o’r gorffennol i ddisgyblion
Yn ol
|