|
Bydd disgyblion yng Nghaerffili yn medru mwynhau seigiau newydd pan fydd bwydlen newydd prydau bwyd ysgolion yn cael ei lansio ar Ddydd Llun 16eg Ebrill. Bydd y gwelliannau i’r fwydlen yn cynnwys:-
- Detholiad o 3 ffrwyth a llysieuyn y dydd o leiaf;
- Cig Eidion a Chig Oen lleol, sydd wedi derbyn gwobr Cymru y Gwir Flas, yn cael eu defnyddio’n helaeth drwy’r fwydlen. Mae’r cig yn cael ei gyflenwi gan gigydd o Gelligaer, Morgan Thomas, a gyda chymorth Baraka Foods Cyf, sydd wedi eu lleoli yn y Rhondda, fe’i troir mewn i brydau bwyd sy’n isel mewn braster ac yn isel mewn halen, tebyg i bastai’r bugail, lasagne, cyrri a byrgeri iachus sy’n apelio at blant ac oedolion;
- Cyw Iâr Lleol Sir Benfro ar y fwydlen;
- Dewis o fara cyflawn ar gael yn ddyddiol;
- Mae nifer o’n cynhyrchion pysgod yn cynnwys 3;
- Nid oes halen ar gael ac rydym yn cymryd gofal i gyfyngu faint o halen sy’n cael ei ddefnyddio wrth goginio a faint o halen sydd mewn bwyd sy’n cael ei brynu;
- Cynigir sglodion ond unwaith yr wythnos;
- Bysedd penfras 100%;
- Mwy o ddewis o brydau bwyd llysieuol sy’n cynnwys Quorn;
Mae ein bwydlenni wedi eu cynllunio’n fanwl i gwrdd â chanllawiau maethol Cymru ar gyfer ciniawau ysgol gan ein rheolwr arlwyo a’n ymgynghorwyr bwyd o dîm y Gwasanaeth Hyrwyddo Iechyd Cenedlaethol. Ein hamcan yw sicrhau fod pryd o fwyd iachus a maethol yn cael ei ddarparu i bob disgybl, ac y darperir bwyd ar gyfer llysieuwyr a disgyblion ar ddietau arbennig hefyd.
Bob dydd mae yna ddewis o brif brydau bwyd poeth gydag o leiaf un opsiwn llysieuol, a dewis o lysiau, potiau ffrwythau, ysgytlaethau, suddion ffrwythau a dand water.
Bob wythnos bydd ffrwyth neu lysieuyn gwahanol yn cael ei hyrwyddo ac mi fydd yn cael ei arddangos ar y fwydlen fel saig flasus newydd. Anogir y disgyblion i fwyta’r llysiau neu’r ffrwythau maethlon a dysgu mwy amdanynt.
Bydd prydau bwyd yn costio £1.55 y dydd ar gyfer pryd o fwyd dau gwrs a diod. Gellir talu am y prydau bwyd drwy siec neu arian parod, ac yn gyffredinol fe gasglir yr arian ar Ddydd Llun.
Mae’r fwydlen newydd yn cwrdd â safonau maethol Ymddiriedolaeth Caroline Walker ac mae’n gam sylweddol tuag at y cynigion yn y ddogfen ymgynghorol, “Blas am Oes”.
Os hoffech i’ch plentyn gael pryd o fwyd yn yr ysgol neu os hoffech gael fwy o wybodaeth, siaradwch ag Ysgrifenyddes yr ysgol neu ewch i’r dudalen cysylltu â ni er mwyn siarad â rhywun yn yr adran arlwyo.
|