Fy Nghinio Ysgol Logo
Home
|
I Rieni
|
I Blant
|
I Athrawon
|
Hwyl
Newyddion Cati
Cati
 
 
Faint wyddoch chi am y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd?

Mae Cati wedi bod yn darllen am y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd a ddechreuodd ar ddydd Llun 23ain Ionawr.

Ydych chi wedi bod yn dysgu am y digwyddiad hwn yn eich dosbarth? Roedd Cati eisiau rhannu'r wybodaeth a gafodd hi felly dyma ddeg ffaith ddiddorol am y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd.

• Y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd yw'r bwysicaf o'r gwyliau Tsieineaidd ac mae'n para 15 diwrnod.

• Mae dyddiad y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd yn newid bob blwyddyn a gall ddechrau ar unrhyw adeg o ddiwedd mis Ionawr i ganol mis Chwefror.

• Mae'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd wedi'i seilio ar ddyddiad y lleuad yn y Dyfrwr (Aquarius). Mae'n dechrau ar ddiwrnod cyntaf y lleuad newydd ac yn gorffen ar leuad lawn ar ddiwrnod Gŵyl y Llusernau.

• Mae pob blwyddyn wedi'i henwi ar ôl anifail gwahanol. Yr anifeiliaid yw'r llygoden fawr, yr ych, y teigr, y gwningen, y ddraig, y neidr, y ceffyl, y ddafad/afr, y mwnci, y ceiliog, y ci a'r mochyn.

• Ar ôl 12 mlynedd mae'r cylch yn ailddechrau.

• Blwyddyn y Ddraig yw 2012.

• Blwyddyn y Gwningen oedd y llynedd.

• Mae'r Tsieineaid yn credu y bydd anifail y flwyddyn y cawsoch eich geni ynddi yn dylanwadu ar eich bywyd.

• "Cwng Hei Ffat Tshoi" yw'r Tsieineeg am "Blwyddyn Newydd Dda".

• Caiff y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd ei dathlu gyda glanhau blynyddol, gwleddi, tân gwyllt a phartïon teuluol.

Ydych chi'n hoffi bwyd Tsieineaidd? Mae Cati'n dwlu ar flasu bwydydd gwahanol o wahanol rannau o'r byd a bwyd Tsieineaidd yw un o'i ffefrynnau. Dyma rai seigiau Tsieineaidd poblogaidd y byddwch wedi'u blasu, efallai:-

• Nwdls
• Cyw iâr melys a sur
• Bwyd wedi'i dro-ffrio
• Crempog lysiau
• Wonton

Ydych chi eisiau rhoi cynnig ar goginio saig Tsieineaidd? Gallech chi ofyn i'ch rhiant/gwarcheidwad eich helpu i goginio Nwdls a chyw iâr wedi'u tro-ffrio.

Cynhwysion
Digon i 4
Powdr garlleg 0.25 llwy de
Ffiledau cyw iâr 3 ffiled gyfan
Sinsir (wedi'i falu) 0.25 llwy fwrdd
Llysiau (moron, winwns, puprynnau, bresych, madarch, egin ffa) 225 gram
Nwdls wy 70 gram
Saws soi 0.25 llwy de
Dull
1. Coginiwch y nwdls yn unol â'r cyfarwyddiadau ar y pecyn.
2. Torrwch y cig cyw iâr yn ddarnau bach a'i dro-ffrio mewn ychydig o olew gyda'r sinsir a'r garlleg hyd nes ei fod wedi'i gynhesu drwyddo.
3. Ychwanegwch y llysiau a'u coginio'n ysgafn. (gellir defnyddio cymysgedd tro-ffrio neu gymysgedd o buprynnau, winwns, moron, bresych a madarch wedi'u torri'n fân gydag egin ffa)
4. Ychwanegwch y saws soi a'r nwdls wedi'u coginio a'u troi hyd nes bod y cyfan wedi'i gynhesu drwyddo.
5. Gweinwch ar unwaith.
Dywedwch wrth Cati
Cwestiwn
Beth yw'ch hoff saig Tsieineaidd?
Ateb
Helo
Swnio'n dda
Rwy'n dwlu ar goginio a bwyta bwyd Tsieineaidd wedi'i dro-ffrio gan fod llawer o lysiau blasus ynddo.
Cariad, Cati

Caerphilly County Borough Council
Section Links
Cati
|

|

|

|

My School Lunch ... With regular competitions and great prizes

Hafan | I Rieni | I Blant | I Athrawon | Hwyl | Accessibility | Polisi Preifatrwydd

© 2012 Fy Nghinio Ysgol