Anghofiwch am sglodion seimllyd a semolina soeglyd! Mae cinio ysgol yn wych ac maent yn gwneud daioni i chi hefyd! Felly dewiswch ffordd o fyw iachach, a bwytewch ginio ysgol.
Mae Cati a’i ffrindiau yn cael cinio ysgol bob amser a dyma pam:
- Mae’r bwyd yn fendigedig!!
- Gallwn hel clecs heb fynd i drafferthion am siarad yn y dosbarth!!
- Mae rhywbeth gwahanol i’w flasu ar y fwydlen bob tro!!
- Mae gennym lawer o egni i fynd i chwarae unwaith y byddwn wedi bwyta ein cinio, ac mae gennym beth ar ôl ar gyfer ein gwersi wedyn!!
- Mae cystadlaethau a gwobrau gwych.
- Os byddwch yn bwyta’r mathau cywir o fywyd bydd gennych esgyrn iach.
- Mae’r staff arlwyo sy’n rhoi bwyd i ni yn neis iawn, maent yn dweud wrthym pa mor bwysig yw pryd iach.
- Rydym wrth ein boddau gyda chinio ysgol – mae’n cŵl!!
Ond peidiwch â chymryd ein gair ni ...os nad ydych yn aros i gael cinio ysgol ar hyn o bryd; beth am roi cynnig arnynt. Efallai y cewch eich synnu.
Ydych chi wedi chwarae ein gêm ‘muncher’? Os nad ydych wedi rhoi cynnig arni, mae’n wych!! Cliciwch ar “Hwyl” ar ben y dudalen hon a gallwch weld y gemau eraill y gallwch eu chwarae.