 |
| |
 |
| |
Ydych chi’n frwdfrydig, yn hoffi gweithio mewn tîm ac yn mwynhau delio â phobl a phlant? P’un a ydych newydd adael yr ysgol neu’r coleg ac yn edrych am eich swydd gyntaf neu’n dychwelyd i’r gwaith ar ôl seibiant gyrfa mae gennym gyfleoedd mewn Ysgolion, Unedau Pryd ar Glud a Bwytai Staff sy’n lleol i’ch cartref. Efallai bod gennym y swydd ddelfrydol i chi!
Mae angen pobl fel chi arnom o bob math o gefndir i ymuno â’n timau arlwyo - cynigiwn oriau gwaith hyblyg a gwaith yn ystod tymor ysgol yn unig yn ein hunedau ysgol. Mae’r rhain yn swyddi delfrydol i gyd-fynd ag ymrwymiadau teuluol (efallai bydd achlysuron lle y cynhelir hyfforddiant yn ystod gwyliau ysgol - ond dim ond am un diwrnod fydd hyn fel arfer). Gallwch gael eich hyfforddi tra byddwch yn gweithio, a chael y cyfle i ddatblygu eich gyrfa, manteisio ar brydau am ddim tra yn y gwaith (nid yw’r fantais hon yn berthnasol i yrwyr fan a helpwyr) ac ymwneud â datblygu ymgyrch bwyta’n iach yng Nghaerffili.
Gwerthfawrogwn mai ein staff yw ein hased bwysicaf ac rydym yn gofalu amdanynt. Mae gennym becyn tâl ac amgylchiadau ardderchog.
Dyma rai enghreifftiau o’r math o swyddi. Mae oriau a gradd y swydd yn amodol ar amrywiaeth yn unol â graddfa cynhyrchiant gytûn a nodir yn y pecyn amodau tâl.
Cynorthwy-ydd Arlwyo
Byddwch yn helpu i baratoi a gweini prydau, yn paratoi ardaloedd bwyta ac yn golchi’r llestri. Mae’r rhain yn rolau delfrydol i bobl sy’n gallu gweithio’n effeithiol fel rhan o dîm â chanddynt ymagwedd hyblyg tuag at waith ac sy’n gallu cyfathrebu’n effeithiol gyda staff a disgyblion. Mae’r oriau yn amrywio o 5 i 15 yr wythnos.
Cynorthwy-ydd Coginio
Byddwch yn cynorthwyo’r Prif Gogydd, yn gweini prydau, golchi llestri, cadw llyfrau a hyfforddi. Byddwch hefyd yn cynorthwyo staff eraill gyda digwyddiadau arbennig a diwrnodau hyfforddi, yn gwneud gwaith y Prif Gogydd yn ei absenoldeb. Efallai y bydd gofyn i chi ymdrin ag ychydig o arian parod. Mae’r oriau yn amrywio o 7½ i 30 yr wythnos.
Cynorthwy-ydd Fan
Byddwch yn cynorthwyo’r gyrrwr fan i ddosbarthu prydau i bobl sy’n cael Pryd ar Glud ac yn casglu arian ganddynt naill ai gartref neu mewn clybiau cinio. Mae’r oriau yn amrywio o 7½ i 20 yr wythnos.
Gyrrwr Fan
Byddwch yn gyrru fan mewn ardal o’r gymuned ac yn dosbarthu prydau i bobl sy’n cael Pryd ar Glud ac yn casglu arian ganddynt. Mae’r oriau yn amrywio o 7½ i 20 yr wythnos.
Prif Gogydd
Byddwch yn gyfrifol am oruchwylio’r gegin a’r staff yn ogystal â choginio, gweini bwyd a glanhau. Byddwch hefyd yn cwblhau gwaith gweinyddol mewn cysylltiad â rhedeg y gegin. Yn ddelfrydol mae’n rhaid eich bod yn meddu ar brofiad arlwyo ar raddfa fawr, gydag NVQ Lefel 2 neu lefel o brofiad cyfatebol, yn ogystal â’r gallu i arwain ac ysgogi tîm ac yn meddu ar ymagwedd hyblyg tuag at waith. Bydd angen sgiliau i gyfathrebu’n effeithiol arnoch gyda staff a chwsmeriaid. Mae’r oriau yn amrywio o 15 i 37 yr wythnos.
Os oes diddordeb gennych mewn gweithio i ni gallwch weld ein swyddi diweddaraf drwy logio ar swyddi neu fel arall drwy ffonio 01495 235796 am fwy o fanylion.
|