Fy Nghinio Ysgol Logo
Home
|
I Rieni
|
I Blant
|
I Athrawon
|
Hwyl
Y bwytäwr mwyaf iachus ym Margod
Daniel Petire with Cheryl Gittins (Assistant Head cook at Heolddu Comp)
 
Dyddiad: 23/11/2004

Mae disgybl o Ysgol Gyfun Heolddu wedi derbyn gwobr fel y disgybl sy’n bwyta’r deiet mwyaf iachus.

Mae Gwasanaethau Arlwyo Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi bod yn monitro prydau bwyd disgyblion Ysgol Gyfun Heolddu ym Margod fel rhan o system heb arian parod sy’n caniatáu i ddisgyblion brynu bwyd a diod drwy ddefnyddio cerdyn.  Gall y disgyblion ychwanegu arian ar y cerdyn, neu gofyn i’r cerdyn gael ei gredydu ar gyfer cinio ysgol am ddim, a’i ddefnyddio yn y ffreutur neu mewn peiriannau gwerthu bwyd.

Mae’r system yn galluogi staff arlwyo i fonitro pa eitem o fwyd y mae’r disgybl wedi’i brynu.  Felly, roedd modd iddynt ganfod pwy oedd wedi bwyta’r bwydydd mwyaf iachus.

Cyhoeddwyd mai Daniel Petrie, disgybl blwyddyn 9, oedd yr enillydd.  Dywedodd, ‘Rydw i wrth fy modd gyda’r holl fwydydd iachus sydd yma.  Alla i ddim rhoi’r gorau i’w bwyta!’

Rhoddwyd taleb gweithgarwch teuluol i Daniel y gallant ei defnyddio mewn canolfan hamdden yn y fwrdeistref.

Mae’r system heb arian parod yn fuddsoddiad gan Wasanaethau Arlwyo i wella’r cyfleusterau arlwyo sydd ar gael mewn ysgolion uwchradd.  Gosodwyd pedair system heb arian parod yn ysgolion uwchradd Heolddu, Oakdale, Bedwas a’r Coed Duon, ac mae cynlluniau ar y gweill i osod rhagor.

Y gobaith yw y bydd y buddsoddiadau hyn yn annog disgyblion i brynu bwydydd iach yn eu hysgol, ac yn eu hannog i beidio â phrynu bwyd brasterog neu felys y tu allan i dir yr ysgol.

Dywedodd y Cynghorwr Dai Hardacre, sy’n Aelod Cabinet Addysg a Hamdden, ‘mae’r system heb arian parod yn ffordd wych o annog disgyblion i brynu bwyd iachus o ffreutur yr ysgol.  Mae Daniel Petrie yn enghraifft dda o rywun sydd wedi croesawu’r dewisiadau iachus sydd ar gael.  Gobeithiaf y gellir ailadrodd hyn mewn ysgolion ledled y fwrdeistref’.

Pryd bwyd pen-blwydd yn rhoi blas o’r gorffennol i ddisgyblion



Yn ol
Caerphilly County Borough Council
Section Links
|

     
My School Lunch ... Giving you the latest information

Hafan | I Rieni | I Blant | I Athrawon | Hwyl | Accessibility | Polisi Preifatrwydd

© 2012 Fy Nghinio Ysgol