Mae’r datganiad uchod yn esbonio ein polisi o ran y wybodaeth bersonol yr ydym yn ei chasglu amdanoch, eich plentyn neu ddisgyblion ysgol. Mae’r datganiad hwn yn esbonio sut y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth yr ydym yn ei chasglu amdanoch er mwyn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch a gwella’r gwasanaeth y gallwn ei gynnig i chi. Darperir gwybodaeth bersonol ar sail wirfoddol yn unig.
Y wybodaeth a gesglir gennym amdanoch
Yn yr adran “I Rieni ac Athrawon” o’r wefan hon rydym yn casglu gwybodaeth bersonol amdanoch pan fyddwch yn cwblhau’r holiadur “Beth yw eich barn chi?” a’r ffurflen ymholiadau “Cysylltu â ni”. Ar gyfer oedolion y mae’r ddau gyfleuster hyn ac os ydych yn blentyn o dan 18 oed ac yn dymuno cwblhau’r ffurflenni hyn rhaid i chi gael caniatâd rhiant, gwarcheidwad neu athro/athrawes yn gyntaf. Drwy ddarparu gwybodaeth ar y ffurflenni hyn, cewch eich ychwanegu at ein rhestr o gwsmeriaid cyfredol os na fyddwch yn dewis yr opsiwn eithrio ar waelod y ffurflen. Drwy fod ar y rhestr cwsmeriaid cyfredol, gellir cysylltu â chi yn achlysurol drwy’r wefan neu e-bost at ddibenion marchnata uniongyrchol. Nid yw eich penderfyniad i eithrio o’r rhestr cwsmeriaid cyfredol yn effeithio ar y wybodaeth a dderbyniwch eisoes drwy ysgol eich plentyn neu ddisgybl. Ni chaiff y wybodaeth bersonol a gaiff ei chasglu o’r ffurflenni hyn ar y wefan eu gwerthu i gwmni arall a dim ond cynhyrchwyr Fy Nghinio Ysgol, darparwyr arlwyaeth yr ysgol a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili sydd â mynediad i’r wybodaeth.
Y wybodaeth a gesglir gennym am eich plentyn neu ddisgybl ysgol
Dim ond gyda chaniatâd rhiant, gwarcheidwad neu athro/athrawes y byddwn yn casglu data gan blentyn. Mae’r adran o’r wefan “I Blant” yn cynnwys clwb ar-lein a ddiogelir gan gyfrinair fel bod angen i bob plentyn gael caniatâd oedolyn cyfrifol cyn cael mynediad i unrhyw dudalennau yn ardal y clwb. Efallai y rhoddir cyfrinair i blentyn yn yr ysgol, ac os hynny mae prifathro/prifathrawes neu athro/athrawes ysgol eich plentyn wedi caniatáu mynediad i bob plentyn yn y dosbarth/ysgol. Drwy ganiatáu mynediad i ardal clwb y wefan rydych yn awdurdodi eich plentyn neu ddisgybl i gymryd rhan yn holl weithgareddau’r ardal hon, gan gynnwys caniatâd i gyflwyno gwybodaeth bersonol, derbyn ymatebion e-bost awtomataidd a chymryd rhan mewn cystadlaethau. Pan gesglir gwybodaeth bersonol, ni chaiff ei defnyddio at ddibenion unrhyw fath o farchnata uniongyrchol.
Mae ardal y Clwb yn cynnwys:
Ynglyn â Cati: Mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am y masgot a’r hyn mae’n ei gynrychioli. O dro i dro, efallai y gofynnir i blant anfon eu syniadau, eu storïau neu eu cerddi eu hunain am y cymeriad neu gymryd rhan mewn cystadlaethau arbennig. Caiff yr holl weithgareddau hyn eu cynnal gan gadw diogelwch y plentyn ar-lein mewn cof.
Cystadleuaeth: Bydd cystadlaethau rheolaidd i blant ar y dudalen hon. Caiff y gwobrau i’r cystadlaethau eu rhoi drwy’r ysgolion. Ar gyfer rheolau penodol pob cystadleuaeth edrychwch ar reolau’r gystadleuaeth ar dudalen y gystadleuaeth.
Dweud/Dywedwch wrth Cati: Sefydlwyd y dudalen hon at ddibenion addysgol, er mwyn helpu plant i ddysgu am gyfathrebu drwy’r e-bost. Bydd Cati yn gofyn cwestiwn i’r plant ac wedi iddynt gwblhau’r ffurflen, byddant naill ai yn derbyn ymateb e-bost gan Cati neu os na ddarperir cyfeiriad e-bost gan y plentyn caiff yr ymateb ei arddangos ar unwaith ar dudalen y wefan. I weld y ffordd y defnyddir unrhyw farn bersonol gan blentyn, darllenwch “Yr hyn a wnawn gyda’r wybodaeth a ddarperir gennych”.
Caiff unrhyw ddatblygiadau neu dudalennau newydd a gaiff eu hychwanegu i’r adran o’r wefan sydd â chyfrinair eu hamlinellu yn y polisi preifatrwydd hwn. Dangosir fersiwn symlach o’r polisi preifatrwydd yn yr adran “I Blant” er mwyn i’ch plentyn neu ddisgybl ei ddarllen a’i ddeall.
Defnyddio Cwcis
Tra rydych yn pori gwefan Fy Nghinio Ysgol, mae cwci wedi ei storio ar eich cyfrifiadur er mwyn i ni allu nodi eich sesiwn ac, o ran y Clwb Ar-lein, caniatáu mynediad i chi. Bydd porwr y we yn dinistrio’r cwci hwn ar ôl 20 munud o fod yn segur, neu pan fyddwch yn cau’r cymhwysiad porwr y we. Ni chaiff unrhyw wybodaeth bersonol ei storio mewn cwci, nac unrhyw wybodaeth sy’n ein galluogi i’ch adnabod yn unigol.
Yr hyn wnawn gyda gwybodaeth a ddarperir gennych
Caiff y wybodaeth a gesglir gennym yn yr adran “I Rieni ac Athrawon” o’r wefan ei defnyddio at ddibenion ateb eich cwestiynau a datblygu gwelliannau i’r wefan a gwasanaeth arlwyo o fewn ysgolion. Er na chaiff gwybodaeth bersonol ei rhyddhau i gwmnïau allanol, efallai y byddwn yn rhannu gwybodaeth gyffredinol ag awdurdodau lleol neu gyflenwyr eraill at ddibenion meincnodi neu ddatblygu.
Caiff y wybodaeth a gesglir gennym yn yr adran “I Blant” o’r wefan ei defnyddio at ddibenion rhedeg y Clwb Ar-lein a chystadlaethau, dibenion addysgol a datblygu. Pan fyddwn yn chwilio am farn plentyn unigol, ni chaiff y wybodaeth hon ei rhannu ag unrhyw un arall ac eithrio cynhyrchwyr Fy Nghinio Ysgol, darparwr arlwyo’r ysgol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ac ysgol y plentyn pan fo angen. Gallai gwybodaeth gyffredinol gael ei rhannu ag awdurdodau lleol neu gyflenwyr eraill at ddibenion meincnodi neu ddatblygu.
Cysylltiadau Allanol
Mae’r wefan hon yn darparu cysylltiadau â nifer o wefannau allanol, nid yw Fy Nghinio Ysgol yn gyfrifol mewn unrhyw fodd am arferion preifatrwydd na chynnwys y gwefannau hynny.
Ymholiadau
Gall Rhieni ac Athrawon wneud cais i weld y wybodaeth a gaiff ei storio am eu plentyn neu ddisgybl. Os hoffech weld y wybodaeth hon cyflwynwch gais drwy’r ffurflen “Cysylltu â Ni” a bydd y person priodol yn cysylltu â chi.
|