Fy Nghinio Ysgol Logo
Home
|
I Rieni
|
I Blant
|
I Athrawon
|
Hwyl
Ynglyn â Ni
 
 
 

Pwy Ydyn Ni a Beth Rydym yn ei Wneud?

Ffurfiwyd Gwasanaethau Arlwyo a Glanhau yn 2000 a dyma yw Sefydliad Gwasanaeth Uniongyrchol Cyngor Caerffili. Mae’n ddarparwr gwasanaeth mewnol sy’n gyfrifol am ddarparu amrywiaeth o wasanaethau lletygarwch fel a ganlyn:

Cinio Mewn Ysgolion Cynradd
Cinio Mewn Ysgol Uwchradd
Arlwyo Lles (Pryd ar Glud)
Arlwyo ar gyfer Staff ac Arlwyo Dinesig
Arlwyo Arall
Glanhau Adeiladau Ysgolion
Glanhau Adeiladau Eraill

Mae ein gweithlu yn fawr ac yn cynnwys merched yn bennaf. Gall nifer yr aelodau o staff amrywio drwy gydol y flwyddyn yn dibynnu ar amrywiadau tymhorol mewn masnach, ond nifer cyfartaledd y gweithwyr drwy gydol y flwyddyn yw 1000, y rhan fwyaf ohonynt yn gweithio’n rhan amser gan ymgymryd ag ystod o swyddi arlwyo a glanhau. Mae’r lefel staffio yn cynrychioli tua 10% o weithlu’r Cyngor ar ail y pen.

Mae nod y cyngor o gyflwyno strategaethau a sicrhau gwerth gorau o ran darpariaeth yn allweddol o fewn y sefydliad. Darparwn wasanaethau o ansawdd, sy’n gost effeithiol gyda’r nod o sicrhau gwerth gorau i’n holl gwsmeriaid ac ymdrechwn i fod ymysg y prif ddarparwyr gwasanaethau arlwyo a glanhau mewn awdurdod lleol yn y wlad. Gosodwyd systemau a mesurau rheoli perfformiad sydd wedi helpu i godi safonau ansawdd i lefel uchel iawn. Rydym yn meincnodi yn erbyn awdurdodau lleol eraill, gan ddarparu tystiolaeth o berfformiad ac arferion gorau.

Rydym yn ymgynghori’n rheolaidd gyda’n staff a’n cwsmeriaid ac yn gwneud gwelliannau priodol i’n gwasanaeth.

Mae’r Tîm Rheoli Gwasanaethau Arlwyo a Glanhau wedi’i leoli yn Nhŷ Penmaen, Pontllanfraith, Y Coed Duon. Pennaeth y tîm yw Sally Franks - Pennaeth y Gwasanaethau Arlwyo a Glanhau.

Cinio Ysgol – Hyfforddiant Staff

Bob dydd mae ein timau arlwyo yn cynhyrchu mwy na 10,000 o brydau mewn Sefydliadau Addysgol. Fel sefydliad nad yw’n gwneud elw o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili rydym yn fusnes sy’n gweithio’n gyfan gwbl er eich budd chi, ein cwsmeriaid. Nid cyfranddalwyr sydd gennym ond rhanddeiliaid.

Fe’ch sicrhaf fod y tîm arlwyo yn ysgol eich plentyn wedi’i hyfforddi’n dda ym mhob agwedd ar ddiogelwch a hylendid bwyd. Rydym yn aml yn cynnal cyrsiau hyfforddi ar gyfer ein staff. Mae hyn yn sicrhau nid yn unig bod ein tîm yn gymwys i ymgymryd â’r dasg o fwydo plant ysgol Caerffili ond mae hefyd yn cyflawni disgwyliadau personol ac yn cynnal morâl drwy’r sefydliad.

Isod rhestrir rhai o’r cyrsiau y byddai’n staff arlwyo yn eu mynychu.

  • Caiff pob aelod o staff ei hyfforddi mewn Hylendid Bwyd Sylfaenol ac mae llawer o’n rheolwyr arlwyo wedi ennill Diplomâu Hylendid Bwyd Safonol Canolradd neu Uwch.
  • Sicrhawn fod pob aelod o staff a gyflogir am dros 6 mis yn meddu ar dystysgrif Hylendid Bwyd Sylfaenol gan y CIEH (Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd).
  • Mae llawer o’r staff yn meddu ar sgiliau a chymwysterau, megis City and Guilds ac anogir pob aelod o staff i ymgymryd ag NVQ (Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol).
  • Mae ein holl staff wedi’u hyfforddi mewn gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch

Sicrwydd Ansawdd a Hylendid Bwyd

Rydym yn cymryd Hylendid Bwyd o ddifrif ac yn ogystal â’r hyfforddiant staff a ddisgrifir uchod, mae gennym system sicrwydd ansawdd ardderchog sy’n cyfyngu ar risgiau a pheryglon sy’n ymwneud ag arlwyo i sicrhau bod bwyd yn cael ei baratoi yn yr amgylcheddau mwyaf diogel posibl.

Cynhelir archwiliadau sicrwydd ansawdd gan dîm diduedd wedi’i hyfforddi sy’n dangos lefel uchel o wasanaeth bwyd yn gyson. Cyfartaledd y sgôr canran Archwiliad Ansawdd Mewnol a gyrhaeddwyd yn 2003/04 gan Unedau Arlwyo Ysgolion Cynradd oedd 92%.

Y Bwyd a Ddefnyddiwn

Dim ond cwmnïau adnabyddus a ddefnyddiwn i gyflenwi ein bwyd. Mae’n rhaid i wneuthurwyr a chyflenwyr gyrraedd safonau penodol o ddiogelwch a hylendid cyn cael eu hystyried i fod yn addas fel contractwyr.

  • Prynwn fwyd yn lleol lle bynnag y o’n bosibl
  • Gweithiwn i sicrhau y gellir darparu tueddiadau sy’n dod i’r amlwg, e.e. ar hyn o bryd rydym yn edrych ar gynnyrch Organig, Lleol a Masnach Deg. (We work to ensure…)
  • Nid ydym yn defnyddio cynnyrch cig sy’n cynnwys MRM (cig wedi’i adfer yn fecanyddol)
  • Ni chaniateir yr ychwanegion canlynol yn y bwyd a ddarparwn gan eu bod yn achosi’r pryder o ran i ymddygiad blant: E110, E102, E107, E123, E120.
  • Nid ydym yn defnyddio bwyd sy’n cynnwys cynhwysion GM (wedi’u haddasu’n enetig) yn fwriadol
  • Rydym yn cymryd gofal i gyfyngu ar faint o halen a ddefnyddir wrth goginio ac mewn bwydydd a brynir.
  • Lle bynnag y bo’n bosibl coginiwn y bwyd yn y ffwrn i leihau’r braster yn ein prydau.
  • Rydym wedi addasu ein rysetiau i leihau siwgr a braster a chynyddu ffibr.
  • Rydym yn annog bwyta 5 ffrwyth a llysieuyn y diwrnod. Gall cinio ysgol ddarparu dau o’r bwydydd iachus hanfodol hyn bob diwrnod ysgol.
  • Rydym yn cydymffurfio â’r Safonau Maethol Cenedlaethol ar gyfer cinio ysgol.
  • Rydym wrthi’n hyrwyddo ac yn annog bwyta’n iach ac rydym am wneud cinio ysgol yn brofiad pleserus a gwerthfawr.

Materion Maethol

Mae Gwasanaeth Arlwyo Caerffili yn ymrwymedig i Fwyta’n Iachach ac yn gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion ac Is-Grŵp Maeth Cynghrair Iechyd Caerffili, i hybu iechyd a lles disgyblion. Rhoddwn sylw penodol i ansawdd maethol prydau ysgol ac mae ein bwydlenni yn cynnig dewis cytbwys. Mae bwydlenni mewn ysgolion wedi cael eu harchwilio gan faethegwyr ac maent wedi cael sêl bendith rheini a phlant hefyd.

Gwneud Prydau Ysgol yn Hwyl

Dengys astudiaethau fod plant sy’n cael prydau maethlon cytbwys yn rheolaidd nid yn unig yn hapusach, ond hefyd yn gallu canolbwyntio mwy. Mae maeth cywir yn gwella gallu plant i ddysgu. Rydym yn cydnabod y rhan y mae cinio ysgol yn ei chwarae yn natblygiad plentyn ac mae ein staff yn gweithio’n galed i sicrhau bod eich plentyn yn mwynhau amser cinio. Ceisiwn annog plant i roi cynnig ar fwydydd newydd a chynigiwn sesiynau blasu mewn ysgolion. Defnyddir y cymeriad Cati’r Crocodeil, fel sydd ar ein byrddau bwydlen wythnosol a chanllawiau bwydlen i rieni, i annog plant i fwyta deiet cytbwys.

Ein nod yw gwneud amser cinio yn hwyl ac yn addysgol, gyda Cati’r Crocodeil - sy’n aml yn ymweld ag ysgolion yn ystod amser cinio ac sydd ar gael ar gyfer ymweliadau wedi’u trefnu i ysgolion yn amodol ar argaeledd ac ar gais.

Caerphilly County Borough Council
Section Links
|

     
My School Lunch ... Come back again soon

Hafan | I Rieni | I Blant | I Athrawon | Hwyl | Accessibility | Polisi Preifatrwydd

© 2012 Fy Nghinio Ysgol