|
Dyma beth sydd gan Peter Gomer, Pennaeth Gwasanaethau Arlwyo a Glanhau i’w ddweud am arlwyo mewn ysgolion cynradd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
“Rwyf wedi bod yn ymwneud ag arlwyo mewn ysgolion ers nifer o flynyddoedd, ac mae’r jôcs am gwstard llawn lympiau a bresych soeglyd ymhell o fod yn wir. Yn wir, ni fu amser gwell i aros i gael cinio ysgol. Mae gennym nifer o flynyddoedd o brofiad mewn bwydo plant mewn ysgolion a gwyddom y rhan bwysig y mae cinio ysgol yn ei chwarae yn y diwrnod ysgol. Bydd cinio cytbwys o ansawdd da yn helpu eich plentyn i ganolbwyntio yn ystod gwersi a defnyddio’u hegni yn ystod amser chwarae a magu nerth ar gyfer y prynhawn ac rydym yn cynnig bwydlen ragorol o ddewisiadau iachus am ddim ond £1.80 am ginio 2 gwrs a diod.
Mae dechrau yn yr Ysgol Gynradd am y tro cyntaf yn gam pwysig a chyffrous i’ch plentyn. Rydym am wneud yn siŵr bod pob plentyn yn teimlo eu bod yn cael croeso a gofal drwy gydol eu diwrnod ysgol, a dyna pam yr hoffai Cati, ein masgot cinio ysgol, wahodd eich plentyn i ymuno â hi yn ystod amser cinio.
Mae ysgolion yn llefydd delfrydol i annog plant i fwyta opsiynau iachach i’w helpu i atal gordewdra mewn plant a phroblemau iechyd eraill. Gall ein staff arlwyo profiadol sydd wedi’u hyfforddi’n llawn roi cymorth i chi ofalu am eich plentyn drwy ddilyn bwydlen iach a blasus sy’n dilyn canllawiau maethol Cymru.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag Is-Grŵp Maeth Cynghrair Iechyd Caerffili ac un o’n prif flaenoriaethau yw cynyddu faint o blant sy’n bwyta ffrwythau a llysiau. Mae Gwasanaethau Arlwyo Caerffili wedi cymryd camau i ddatblygu’r nod hwn ymhellach drwy eu menter trawsbynciol Hyfforddwyr Bwyd Iach drwy gyflwyno cynllun o’r enw ‘Llysieuyn yr Wythnos’. Mae ein Hyfforddwyr Bwyd Iach wedi bod wrthi’n hyrwyddo’r cynllun hwn ac yn hyfforddi ein staff. Bob wythnos bydd llysieuyn gwahanol yn cael ei hyrwyddo ac fe fydd yn cael ei gynnwys ar y fwydlen fel pryd newydd blasus. Anogir y disgyblion i fwyta’r llysiau maethlon a dysgu mwy amdanynt. Rydym yn falch o gael cyhoeddi ein bod wedi ennill Gwobr Gweithredu’n Lleol (AFAL) gan Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru ar gyfer ein menter Hyfforddwyr Bwyd Iach.
Manteision Cinio Ysgol
Ceir llawer o fanteision os yw’ch plentyn yn cael cinio ysgol, ac rydym wedi rhestru rhai ohonynt;
- Arbed amser yn y bore drwy beidio â gorfod paratoi cinio, hefyd nid oes angen poeni am gadw’r bwyd yn ffres ac yn hylan tan amser cinio.
- Mae plant yn elwa ar eistedd i lawr a bwyta gyda’i gilydd wrth fwrdd ac fe’u hanogir i fwyta bwydydd newydd.
- Mae’r prydau’n gytbwys ac yn iach a cheir amrywiaeth o un diwrnod i’r llall.
- Rydym yn arlwyo ar gyfer llysieuwyr, pobl ag anghenion arbennig yn cynnwys deiet meddygol a phobl ag anghenion crefyddol.
- Mae gennym gysylltiad cryf â’r canolfannau hamdden lleol drwy Cati, ein crocodeil heini ac iach.
- Gall eich plentyn ymuno â hyrwyddiadau, cystadlaethau a diwrnodau hwyl
- Gall eich plentyn ymuno â phrydau arbennig sy’n gysylltiedig â phynciau a ddysgir yn y dosbarth
- Mwynhau digwyddiadau fel cinio parti Nadolig a bwydlenni arbennig eraill yn seiliedig ar thema
- Pryd 2 Gwrs a Diod am £1.80 yn unig
- Bydd ein gwefan newydd yn ein galluogi i gael cysylltiadau cryfach gydag ysgolion drwy’r cwricwlwm, gan ein helpu i ddatblygu eich plentyn
Y Bwyd a Ddefnyddiwn a Sut y’i Defnyddiwn
- Dim ond cyflenwyr a manwerthwyr wedi’u cymeradwyo yr ydym yn eu defnyddio
- Prynwn fwyd yn lleol ble bynnag y bo’n bosibl
- Gweithiwn i sicrhau y gellir darparu ar gyfer tueddiadau sy’n dod i’r amlwg, e.e. ar hyn o bryd rydym yn edrych ar gynnyrch Organig, Lleol a Masnach Deg.
- Nid ydym yn defnyddio cynnyrch cig sy’n cynnwys MRM (cig wedi’i adfer yn fecanyddol)
- Ni chaniateir yr ychwanegion canlynol yn y bwyd a ddarparwn gan eu bod yn achosi’r pryder o ran ymddygiad blant: E110, E102, E107, E123, E120.
- Nid ydym yn defnyddio bwyd sy’n cynnwys cynhwysion GM (wedi’u haddasu’n enetig) yn fwriadol
- Rydym yn cymryd gofal i gyfyngu ar faint o halen a ddefnyddir wrth goginio ac mewn bwydydd a brynir.
- Lle bynnag y bo’n bosibl coginiwn y bwyd yn y ffwrn i leihau’r braster yn ein prydau.
- Rydym wedi addasu ein rysetiau i leihau siwgr a braster a chynyddu ffibr.
- Rydym yn annog bwyta 5 ffrwyth a llysieuyn y diwrnod. Gall cinio ysgol ddarparu dau o’r bwydydd iachus hanfodol hyn bob diwrnod ysgol.
- Rydym yn cydymffurfio â’r Safonau Maethol Cenedlaethol ar gyfer cinio ysgol.
- Rydym wrthi’n hyrwyddo ac yn annog bwyta’n iach ac rydym am wneud cinio ysgol yn brofiad pleserus a gwerthfawr.
Mae Gwasanaethau Arlwyo Caerffili yn wasanaeth nad yw’n gwneud elw ac mae’n ymrwymedig i sicrhau ansawdd a gwasanaeth o’r radd flaenaf.
Mae cinio ysgol yn werth ardderchog am arian. Mae nid yn unig yn darparu bwyd da ond mae’n hwyl hefyd! “Felly beth am roi gwledd i’ch plentyn drwy ginio ysgol.”
|