Mae Ysgolion Casnewydd, ynghyd ag Arlwyo Casnewydd wedi croesawu’r meddwl y tu ôl weithio mewn partneriaeth gyda’r Bwrdd Iechyd Lleol, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’r Swyddog Ysgolion Iach i ddarparu ‘Blas am Oes’, sef menter bwyta’n iach Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Gyda’r nod hwn rydym yn gweithio fel y gellir perswadio plant i fwyta a mwynhau bwyd iach, os cânt yr ymagwedd iawn.
Ceir yr holl fwydydd o gyflenwyr cyfrifol ac fe’u coginir yn ffres ar y safleoedd, yn hytrach na wedi’i baratoi’n barod a chymerir gofal i annog plant i wneud dewisiadau hysbys ac i ddweud ‘os gwelwch yn dda’ a ‘diolch’ wrth y staff arlwyo a helpu i dacluso wedi hynny.
Mae’r fwydlen, sydd wedi’i hailwampio, yn rhoi gwybodaeth am y ‘5 Hanfodol’ a fydd yn cynorthwyo’r Gwasanaeth Prydau Ysgol i farchnata a chodi ymwybyddiaeth o faeth a phrydau ysgolion yn y sector cynradd. Mae hyn yn rhan o’r fenter Farchnata a Chyfathrebu mae’r gwasanaeth prydau ysgol yn ei defnyddio i sicrhau y cyflwynir gwybodaeth i blant mewn ffordd ddiddorol.
Rydym ni’n gobeithio y bydd plant yn mwynhau eu pryd amser cinio a gallu gwneud y dewisiadau hysbys hyn a fydd yn eu cadw’n iach ac yn iawn.
|